Cynghorir y gwylwyr i ddefnyddio eu disgresiwn gan fod y cynnwys hwn wedi’i greu ar gyfer cynulleidfa sy’n oedolion.
Mae “Stay off the tracks” yn paru ymatebwyr cyntaf â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant ffilm i ail-greu effeithiau erchyll tresmasu rheilffordd ar ddioddefwyr a’u hanwyliaid.
Mae Nicole Lee, Rheolwr Rhwydwaith Llosgiadau’r GIG ar gyfer Rhwydwaith Llosgiadau Llundain a De-ddwyrain Lloegr yn ogystal â Chadeirydd Cymdeithas Llosgiadau Prydain yn disgrifio effaith dod i gysylltiad â’r rheilen drydanol i’r artist colur effeithiau arbennig Shaune Harrison.
Mae’r rheilffordd yn llawn risgiau annisgwyl, ac mae bod ar y traciau yn fwy peryglus nag y mae pobl yn ei sylweddoli.
Amddiffynwch eich hun rhag anafiadau trychinebus, a all newid bywyd – neu waeth. Arhoswch oddi ar y traciau. Dydy o ddim yn werth chweil.
