Ar ôl cael ei gollwng yn yr orsaf, mae merch yn ei harddegau yn mynd yn sownd yn ei ffôn wrth iddi gerdded tuag at y groesfan lefel. Wedi’i thynnu sylw gan negeseuon a hysbysiadau, mae hi’n methu’r rhybuddion “Stopiwch, Edrychwch a Gwrandewch” ac yn croesi’r traciau heb wirio am drenau. Mewn eiliad, mae’r canlyniadau’n angheuol. Mewn croesfannau lefel, nid oes ail gyfle.