Cynghorir y gwylwyr i ddefnyddio eu disgresiwn gan fod y cynnwys hwn wedi’i greu ar gyfer cynulleidfa sy’n oedolion.
Mae “Stay off the tracks” yn paru ymatebwyr cyntaf â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant ffilm i ail-greu effeithiau erchyll tresmasu rheilffordd ar ddioddefwyr a’u hanwyliaid.
Mae Rheolwr Gweithrediadau Symudol Network Rail, Anthony Boyle, yn disgrifio’r synau y mae’n eu clywed pan fydd yn mynychu lleoliad digwyddiad i’r dylunydd sain Dan Piggott.
Mae’r rheilffordd yn llawn risgiau annisgwyl, ac mae bod ar y traciau yn fwy peryglus nag y mae pobl yn ei sylweddoli.
Amddiffynwch eich hun rhag anafiadau trychinebus, a all newid bywyd – neu waeth. Arhoswch oddi ar y traciau. Dydy o ddim yn werth chweil.
